Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2020
Amser:
12.36 -
13.53
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood Helen Carey, Llywodraeth Cymru Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cododd y Trefnydd y mater o ddau Aelod yn methu â phleidleisio ar wahanol adegau yr wythnos diwethaf. Esboniodd y Llywydd ei bod yn bosibl i'r Aelodau gael eu cynnwys yn y system yn electronig gan glerc, pe bai un neu ddau ohonynt yn profi problem anorchfygol. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan eu pleidlais ar lafar tra bod y bleidlais yn agored. Bydd y Llywydd yn defnyddio hyn pan fydd hi'n ystyried ei bod yn angenrheidiol, a phe bai problem ar raddfa fwy eang, byddai'n troi at bleidleisio wedi'i bwysoli.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd barhau â'r arfer cyfredol o beidio â chaniatáu ymyriadau ac eithrio mewn slot penodol tuag at ddiwedd dadl.
Aelodau Annibynnol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes gan na all Neil Hamilton fod yn y Cyfarfod Llawn ei hun ddydd Mercher, er ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn y balot, y cynigir ei le i Neil McEvoy (yr Aelod arall nad yw mewn grŵp, a oedd wedi mynegi yr hoffai fod yn bresennol yn bersonol).
Rheoliadau
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth wedi tynnu'r cynigion canlynol yn ôl:
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020; a
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020.
Y rheswm am hyn yw bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd ddydd Gwener yn eu diddymu.
Amser dechrau ac egwyl
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl tua 12.30, ar ôl cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Cytunwyd hefyd i gael egwyl byr ar ôl busnes y llywodraeth, tua 15.30.
Mewn ymateb i gais gan y Trefnydd, cytunodd y Llywydd y gellir cyfnewid Gweinidogion yn ystod y ddau egwyl, fel y gall mwyafrif y Gweinidogion arweiniol, neu'r rhan fwyaf, gymryd rhan yn y Siambr.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod y Llywodraeth wedi trefnu busnes ar gyfer dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi ymlaen.
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at amserlen fusnes fwy arferol o fis Medi ymlaen, ac felly trefnwyd y canlynol:
Dydd Mercher 16 Medi 2020
Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd (5 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau ar gyfer cyflawni'n well (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) - dygwyd ymlaen o 23 Medi
· Dadl Fer (30 munud)
Dydd Mercher 23 Medi 2020 -
· Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud) - wedi'i symud i 16 Medi
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
Dydd Mercher 30 Medi 2020 -
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: effaith yr achosion o Covid-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (60 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
4 Busnes y Senedd
4.1 Amserlen y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i Gyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher, a chytunwyd ar amserlen ddrafft y pwyllgorau.
Cadarnhaodd y Llywydd y byddai'r Comisiwn yn ystyried materion fel faint o Aelodau a allai fod yn bresennol yn yr adeilad, a defnydd posibl o ystafelloedd eraill, cyn tymor yr hydref. Byddai hefyd yn ystyried a oedd modd darlledu mwy na dau bwyllgor ar yr un pryd yn y dyfodol.
4.2 Dyddiadau’r toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes ddyddiadau toriad hanner tymor yr Hydref a'r Nadolig ar gyfer 2020 a chytunodd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a'r Pasg 2021.
4.3 Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf 2020
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig.
5 Deddfwriaeth
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 20 Gorffennaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod 1 ar 2 Hydref 2020 ac ar Gyfnod 2 ar 4 Rhagfyr 2020.
5.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Pysgodfeydd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Pysgodfeydd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 24 Medi.
5.3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig - y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm diwygiedig ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ond, gan fod y Bil yn cael ei ddal yn ôl am gyfnod amhenodol yn San Steffan, ni osododd ddyddiad terfynol ar gyfer adrodd.
5.4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar 22 Hydref.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r cais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i gwrdd yn ystod yr wythnos yn cychwyn 3 Awst 2020.
7 Unrhyw Fater Arall
Cyfarfodydd adalw'r Senedd ar 5 a 26 Awst
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir gydag amser cychwyn o 1.30pm, ac y bydd unrhyw bleidleisio yn digwydd ar yr ap pleidleisio o bell.
Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau o 3 Awst i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar y rheoliadau, cyn y ddadl a ragwelir ar 5 Awst.
Trafododd y Rheolwyr Busnes ffyrdd o sicrhau bod y rheoliadau, yn achos rheoliadau cadarnhaol, yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl iddynt gael eu gwneud, a gofynnodd y Llywydd i swyddogion ystyried ffyrdd o alluogi hynny i ddigwydd.